Quakers mark 850 years of the Eisteddfod
Quakers marked the 850th anniversary of the National Eisteddfod this month, with around twenty Friends taking part in Europe's largest touring festival.
The week-long event was held in the hometown of Waldo Williams, a Quaker, pacifist and one of Wales's best-loved poets.
His poem "Mewn Dau Gae" is inscribed in the garden at Friends House in London, Quakers in Britain's central offices.
Quakers helped run the festival's Peace Tent, working alongside Heddwch ar Waith, West Wales Friends of Palestine, Parc Yn Erbyn Arfau Niwclear, CND Cymru and Cymdeithas y Cymod.
Wearing red "Syml, Radical, Ysbrydol" ("Simple, Radical, Spiritual") t-shirts, volunteers talked to visitors about peace campaigning and Quaker faith.
On the Monday, passers-by were invited to add their own advice and questions on peacemaking to a board in the tent.
The Societies Tent hosted two Quaker sessions:
- Fifty-five people attended a panel hosted by Quakers in Britain's Ailish Carroll-Brentnall on what it means to be a peacemaker today, in which three Quakers discussed pacifism, the limits of nonviolence against oppressive states, and holding on to hope. A follow-up interview with the panellists aired on Radio Cymru's Bwrw Golwg.
- Between 15 and 18 people, some new to Quaker worship, joined a meeting for worship in the same tent, with children's activities run by Quakers in Britain's Naomi Major.
The week ended with the presentation of the composer's medal, given by Quakers in Wales in memory of Lynn Mosely, a Quaker from South Wales Area Meeting. The theme this year was to set two of Waldo Williams' poems to music.
Quaker Mererid Hopwood, in her final year as Archdruid, spoke throughout the week about the need for peace, leading the traditional call "A oes heddwch?" ("Is there peace?"), answered by the crowd's resounding "Heddwch."
This was the third year Quakers have taken part in the Eisteddfod. Organisers say the event continues to grow as both an outreach opportunity and a celebration of Welsh-language culture.
Welsh-speaking Quakers can connect through Crynwyr Cymraeg.
You can also read reflections from one Friend on her first Eisteddfod experience.
Y Crynwyr yn dathlu 850 mlynedd o'r Eisteddfod
Roedd y Crynwyr wedi dathlu 850 mlynedd o'r Eisteddfod Genedlaethol fis yma, gydag oddeutu ugain o Gyfeillion yn cymryd rhan yng ngŵyl deithiol fwyaf Ewrop.
Cynhaliwyd y digwyddiad wythnos o hyd yn nhref enedigol Waldo Williams, Crynwr, heddychwr ac un o feirdd mwyaf poblogaidd Cymru.
Mae ei gerdd "Mewn Dau Gae" wedi'i harysgrifennu yn yr ardd yn Friends House yn Llundain, swyddfeydd canolog Crynwyr Prydain.
Bu'r Crynwyr yn helpu i redeg Pabell Heddwch yr ŵyl, gan weithio ochr yn ochr â Heddwch ar Waith, Cyfeillion Palesteina Gorllewin Cymru, Parc Yn Erbyn Arfau Niwclear, CND Cymru a Chymdeithas y Cymod.
Gan wisgo crysau-t coch "Syml, Radical, Ysbrydol", roedd y gwirfoddolwyr wedi bod yn siarad ag ymwelwyr am ymgyrchu dros heddwch a ffydd y Crynwyr.
Ar y dydd Llun, cafodd yr Eisteddfodwyr eu gwahodd i ychwanegu eu cyngor a'u cwestiynau eu hunain ar geisio heddwch at fwrdd yn y babell.
Cynhaliodd y Crynwyr ddwy sesiwn ym Mhabell y Cymdeithasau:
- Roedd hanner cant o bobl yn gwrando ar banel dan arweiniad Ailish Carroll-Brentnall o Grynwyr Prydain, ar yr hyn mae'n ei olygu i fod yn heddychwr heddiw. Roedd tri Chrynwr ar y panel yn trafod heddychiaeth, cyfyngiadau arferion di-drais yn erbyn gwladwriaethau gormesol, a dal gafael ar obaith. Roedd y panelwyr wedi cymryd rhan mewn cyfweliad dilynol ar Bwrw Golwg ar Radio Cymru.
- Daeth rhwng 15 ac 18 o bobl, rhai ohonyn nhw'n newydd i addoliad y Crynwyr, ynghyd am gyfarfod addoli yn yr un babell, ac roedd gweithgareddau i blant wedi cael eu cynnal gan Naomi Major o Grynwyr Prydain.
Daeth yr wythnos i ben gyda chyflwyno medal y cyfansoddwr, a roddwyd gan Crynwyr Cymru er cof am Lynn Mosely, Crynwr o Gyfarfod Ardal De Cymru. Y thema eleni oedd gosod dwy o gerddi Waldo Williams i gerddoriaeth.
Bu'r Crynwr Mererid Hopwood, yn ei blwyddyn olaf fel Archdderwydd, yn siarad drwy gydol yr wythnos am yr angen am heddwch, gan arwain yr alwad draddodiadol "A oes Heddwch?" a atebwyd gan "Heddwch" pendant y dorf.
Dyma'r drydedd flwyddyn i'r Crynwyr gymryd rhan yn yr Eisteddfod. Dywed y trefnwyr fod y digwyddiad yn parhau i dyfu fel cyfle allgymorth ac fel dathliad o ddiwylliant Cymraeg.
Gall Crynwyr sy'n siarad Cymraeg gysylltu drwy Crynwyr Cymraeg.
Gallwch hefyd ddarllen myfyrdodau un Cyfaill ar ei phrofiad cyntaf o'r Eisteddfod.